ARDAL CYMUNEDOL LLANGYBI
LLANGYBI COMMUNITY AREA

 

HANES

 


Hafen
| Cyngor| Gwybodaeth Fferm| Tywydd/Newyddion | Cysylltiadau | Local Business Hanes Lleol| Lluniau Newydd

  Home | Latest Photos | Farming Info | Weather/News | Links| | Local Business | Local History| Church & Chapel

 

 

 


“Hewl y Cwmins” 1946 – 1956 gan Eifion Davies
(Copi yw hwn o ddarn a gyhoeddwyd yn “Clonc” Mai 2001)

Diolch i’r diweddar Elwyn Hughes am gymorth i gofio rhai o’r enwau. Dyma ni felly yn gweld newid angrhedadwy yn ystod hanner can mlynedd. Gobeithio bydd hwn yn ysgogi rhai ohonoch i ychwanegi at y tipyn hanes yma.

awelfa 1950
Awelfa tua 1950

Diau nad oes o fewn i ddalgylch ‘Clonc’ fwy o newidiaeth mewn un darn o hewl nag sydd ar y ddwy filltir a chwarter o Langybi, heibio i’r comin, i ben yr hewl sy’n mynd o Silian i Lwynygroes. Dyma hewl ‘Clwb Golff Cilgwyn’ a’r ‘Moorlands Caravan park’ erbyn heddiw. Newid mawr o’r dyddiau y byddwn yn mynd ar fy meic i ddal y bws yn Llangybi am ysgol Tregaron. Yn y cyfnod ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, Cymry oedd yn byw ym mhob cartref oedd yn ffinio â’r hewl.

Daeth newidiaeth, Pwyliaid yn gyntaf i Penlan, Waungoy ac i Nant y Gelli. Wedyn daeth ton o Saeson i bob tŷ a ddaeth yn rhydd. Mynd a dod fu hanes llawer ohonynt, er i un neu ddau deulu ymsefydlu ac erbyn heddiw mae ail a thrydedd genhedlaeth wedi cymryd eu lle yn naturiol yn y gymdeithas.

Magwyd fi yr ieuengaf o saith o blant yn ‘Pantrhwchfach’, ‘Awelfa’ erbyn heddiw. Newidiwyd yr enw am reswm syml – llwyddodd y Bwrdd Marchnata Llaeth, ym Mhont Llanio y pryd hyny, o gymysgu ein siec laeth ni ag un ‘Pantrhewfach’. Ar y pryd roedd gwahaniaeth mawr yn ein cynyrch ni, ac i achub camgymeriad arall newidiwyd yr enw yn syth.

Cadwem dair buwch, a nhw fu’n gyfrifol i’m rhieni gael digon o gyfalaf i brynu’r lle. Dyma oedd y patrwn, cynhorthwyo ar ffermydd ein cymdogion adeg y cynhaeaf i gael benthyg y gaseg a’r offer i gyhaeafu ein gwair ni. Tua 1974 penderfynnodd fy rhieni ymddeol a symud i dŷ cyngor yn Llwynygroes. Cawsom £4,500 am y lle. Yn anffodus llwyddasom i werthu’r lle i ladron. Defnyddiau’r teulu y lle fel lloches, gan deithio oddiyno i drefu De Lloegr i dwyllo gemyddion (Jewellers) i ddod i’w cyfarfod ag engreifftiau o’u modrwyon – y cam nesaf wedyn oedd dianc. Daeth y cyfan i ben mewn helfa cadno ar y ‘cwmins’. Bu damwain fach iawn ond digwyddodd yr heddlu fod yn y man a’r lle. Dim ond i’r ddau yrrwr dod â’u dogfenau i Swyddfa’r Heddlu oedd angen. Bu hyn yn ddigon iddynt ddiflannu dros nos heb i’r un enaid byw ei gweld. Cafwyd un ohonynt yn fuan wedyn ond bu’n flwyddyn a hanner cyn dal y penteulu. Erbyn i Awelfa gael ei ail werthu, rhyw ddeunaw mis yn ddiweddarach, roedd y pris wedi trebli.

Nid oes un o’r saith wedi aros yn y gymdogaeth. Otford yng Nghaint a Pilsley ger Bakewell yw cartref fy nwy chwaer. Llanelli, Caerfyrddin, Cwrtnewydd a Drefach yr ymsefydlom ni’r bechgyn. Dau o’r brodyr wedi marw erbyn hyn (2005).

Yn gymdogion i ni ar un llaw oedd PantrhwchFawr, Cymry, a chymaint y trafeilio o un lle i’r llall fel bod y llwybr yn goch, - yr oedd cymdogion yn gymdogion y pryd hyny. Symudodd y teulu yma i Blaenwern wedyn ond dim ond un o’r teulu arhosodd yn yr ardal. Cymry ddaeth yno wedyn a chofiaf weld wrth ddod adre o’r ysgol y ‘Ferguson’ gyntaf i ddod i’r ardal. Tyrfa o’r cymdogion wedi crynhou i weld rhyfeddod yr hydraulics.

Ar yr ochr arall i ni roedd y ‘cwmins’. “Cadwch nhw o hyd braich” oedd rheol fy nhad parthed y sipswn. Un o’r merched yn dod i’r clos ac yn gweld fy nhad yn cario dau fwcedaid o laeth i’w oeri yn y pistyll. “Can you spare us a drop of milk mister?” meddai. Cyn i dad gael amser i ddweud gair dyma hi’n ychwanegi “butI I don’t expect you’ve got any”, meddai. Na ni chafodd hi ddim llaeth ond gweni wnaeth nhad wrth feddwl am haerllugrwydd hon. Roedd mam wedyn yn fwy parod i helpu, ond yn cael ei dal bob tro. Gwerthodd ddwsinau o wyau i’r sipswn, ond yr un oedd y gan bob tro, rhoi papur punt i mam a hithau byth a newid, erbyn hyn roedd yr wyau yn y fasged a’r geiriau olaf glywodd sawl gwaith oedd – “I’llbring the money tomorrow” ond fel yr hen ddywediad Saesneg “Tomorrow never comes”. Felly y bu hi yn hanes yr arian hefyd.

Os oedd y sipswn wedi aros braidd yn hir, nid oedd dim amdani ond cuddio’i ceffylau. Y bechgyn lleol, fy mrawd Dai yn un yn mynd â’r ceffylau trwy’r cwmins ac i lawr i Langybi, wedyn i Betws ac i fyny’r rhiw dros Coedgleision, i sgwar Brynmadog Lodge cyn dilyn y ffordd am Dalsarn, troi cyn cyrraedd Talsarn am Abermeurig ac ymlaen i fferm Pwll y Badell oedd o’r golwg tu ôl i Eglwys Gartheli. Dyddiau’n mynd heibio a’r hen Wil yn dechrau gofidio ac yn dod at fy nhad. “Boys ti wedi mynd â cheffylau fi”. Fy nhad yn dweud nad oedd gan ei fechgyn e ddim i wneud a’r peth ond ei fod wedi clywed fod ceffylau dieithr mewn fferm tu ôl i’r Eglwys. Awr yn ddiweddarach, y ceffylau yn dod am adre ac yn syth yn sownd i’r garafan. Y cwmins yn glir am ysbaid wedyn. Nid oedd pethau mor hawdd pan ddisodlwyd y garafan geffylau gan un i’w thywys tu ôl i gerbyd. Pan oedd un teulu wedi bod am gyfnod llawer rhy hir penderfynnwyd symud y cyfan mewn treiler a’i dwyn i Tynreithyn, ochr arall i Dregaron. Mis yn ddiweddarach, talwyd y pwyth yn ôl a dychwelwyd y teulu i’r union fan ar y cwmins. Rwy’n credu fod yr un teulu yno o hyd. Erbyn hyn maent siwr o fod wedi bod yn yr un man yn ddigon hir i berchnogi’r daern tir.

Gwelodd Nantygelli, - tŷ hir a tho sinc iddo lawer newid, daeth yn gartref i Bwyliaid, teuluoedd dymunol iawn a chymwynasgar dros ben. Ychydig i fyny’r cwm safai Gellifach, lle trigai Llew Davies. Gŵr caredig ac wedi bod yn ddisgybl yn College School. Perchid ei farn gan bawb ac ef fu yn C.A.B. (Citizens Advice Bureau). Yn ystod y rhyfel deuai pawb ato i lanw pob math o ffurflenni am rantiau neu am ryddhai gweision a meibion ffermydd o’r fyddin. Parchai fy nhad farn Llew i’r fath raddau, i gi gael ei saethu am fod Llew yn amai ei fod yn mynd ar ôl defaid.

Ym Mhenllwynbedw yr oedd Tom a Vi yn byw, Tom yn saer coed heb ei ail ac yn fab i hen deulu’r Cilgwyn. Vi wedi dod o ganol Llunden ac wedi meistrioli’r Gymraeg, er y byddai weithiau’n gymysgedd ryfedd o’r ddwy iaith. Un o’r pedwar a fagwyd ar yr aelwyd arhosodd yng Ngymru. Pan fu farw Tom a Vi rhoddwyd y tŷ ar rent a’r deiliaid fu’n gyfrifol amm ddeni’r Hippies i’r cwmins. Bu yma garfan gref yn byw mewn hen fysus, teepes, benders,a phob math o faniau. Deuai’r mwyafrif o’r hippies o deuluedd digon cefnog a dywedir ar wyliau’r ‘Banc’ fod y Bentleys a’r Rolls Royce i’w gweld yn dod â’u perchnogion i ymweld â deiliaid y Teepes. Brwydrwyd yn galed i gael gwared y mewnfudwyr, ac wedi iddynt ymaael rhoddwyd ffens gref i rwystro ymosodiad arall.

Yr oedd fferm Pwllglas tua ½ milltir o’r hewl. Teulu Beryl Gwastod Abermeurig oedd yn byw yno ddiwedd y rhyfel. Mae gennyf frith gof am ‘Danny’ y gwas yn Pwllglas a aeth ymlaen i’r fyddin a gorffen yn R.S.M. ar un o gatrodau’r guards. Teulu’r Hicks sefydlodd yno wedyn, teulu a gyfrannodd yn helaeth i fywyd yr ardal.

McGregors oedd yn Nantglasfach, teulu a symudodd i Dde Cymru. Cofiaf yn dda am Dai Nantglas. Roedd Dai yn cerdded march a’r côf sydd gennyf am weld y march yn mynd ar hyd yr hewl a Dai ar gefn coben fach, hanner maint y march. Byddai Dai i ffwrdd am ddyddiau. Tybed oes rhywun yn gwybod mwy o hanes y person yma. Dilynwyd Dai gan deulu Markham(?) ond mae wedi newid dwylo gwpl o weithiau wedyn.

Credaf fod yna lawer o dyddynod wedi bod o gwmpas y comins yn enwedig o ben hewl Nantglas i Waungoy. Un yn unig oedd ar ôl ddiwedd y rhyfel sef Blaenafon. (Dechrau afon Meurig). Yno roedd Johnns a’i wraig yn byw. Gwneuthurwr meginau oedd e, ac fe symudodd ei fusnes i Stryd y Bont, rhywle o gwmpas , ‘Tony’s’’. Mwyaf tebyg mae cael y meginau mewn kit oedd e a thorri’r helyg o’r coed o gwmpas Blaenafon. Yr oedd Johnns yn berchen ar feic bwtchwr, beic a lle i roi basged fawr y tu blaen iddo. Bu fy mrawd Dai yn dioddef anhwylder i’w drwyn yn ystod ei gyfnod yn yr heddlu. Y peth cyntaf wnaeth oedd mynd i gael triniaeth ac yn ôl yr arbenigwr niwed pan yn ifanc iawn oedd yr achos. Sut? Wrth gael reid yn lle’r fasged ar feic Johnns i lawr am Langybi, ond ar waelod hewl Penlan penderfynnodd y ci oedd yn rhedeg wrth ochr y beic fynd ar ôl cath ochr arall i’r hewl, a dyma achosi’r ddamwain. Ychydig iawn o olion y tyddyn sydd ar ôl, ond mae’r ffynnon yn dal i fyrlymu drwy’r holl ddrain a mieri sydd o’i chwmpas. Roedd dŵr o’r ffynnon yma yn elfen bwysig mewn hen feddyginiaeth leol sef ‘Eli Cilgwyn’. Rysait a berthynau i hen deulu’r Cilgwyn oedd hwn ac yn eli, rwy’n credu, at lôsg tân a llawer anhwylder arall, ar groen dyn ac anifail. Tybed a oes cofnod o sut i wneud yr eli yn rhywle?

Niwlog yw fy atgofion am Waungoy. Byddwn yn cerdded drwy’r clos ar lwybr oedd yn dod â fi allan ar y tro rhwng Denmark a Lluestnewydd. Byddem hefyd yn mynd heibio’r tyddyn wrth gario’r post i fferm y Lluest. Trigai Tad a mab yno am gyfnod, rwy’n credu mai Gwyddelod oeddynt. Pan fu farw’r deuddyn, methwyd a darganfod yr un disgynydd iddynt. Dyma’r ardal lle gwelais ddwy wiwer goch yn 1947 a chlywais ‘Gafr Wanwyn’ Nightjar yn aml ar fin nos.

Bu llawer o fynd a dod ar ‘Rhos Hill’. Y cymeriadau mwyaf lliwgar yn fy amser i oedd ‘Tiger Woman and her mate’ Dau oedd wedi trafeilio’r byd yn diddori ar longau ac mewn clybiau oeddynt rwy’n credu. Gwisgent yn anghonfensiynol iawn ond mae arnaf ofn na werthfawrogwyd eu talentau yn yr ardal yma. Yn ddiweddarach tua’r saithdegau sefydlwyd ‘Moorlands Caravan Park’ sydd wedi, ac yn dal i ddeni lawer i fwynhau tawelwch yr ardal. O flaen mynedfa moorlands saif bwthyn bach o’r enw Penrhos, helaethwyd ef erbyn heddiw. Byddwn yn galw yno ar fy ffordd adre o’r ysgol i roi cymorth i Lisa Jones, oedd yn byw yno. Tŷ un ystafell oedd, ond bod un cornel wedi ei amgylchynu a dau bared pren gyda thwll sgwar mewn un wal i roi golau dros y gwely. Trueni na fuaswn wedi cofnodi holl fanylion y nyth fach glyd yma.

Glanllillo oedd y bwthyn nesaf ar yr hewl (Cilgwyn erbyn heddiw). Dau yn eu henaint oedd yn byw yno, Tom a Marged. Tom yn dweud wrth fy nhad am roi pregeth i’r boys na. Roedd criw o fechgyn yn mynd ar ei beics i’w gwaith ac yn ôl Tom “Ar y rât ma’r boys na’n mynd heibio, dwed wrtho nhw, ma nhw’n cymryd shortcut i uffern.”. Bu Tom farw yn ystod yr eira mawr yn 1947 a chofiaf am fy nhad yn trefni llu o wirfoddolwyr i dorri llwybr yn yr eira o Lletypannwr yn Llwyngroes i allu mynd â’r arch i Glanllillo. Gambo wedyn yn ffeindio llwybr drwy’r caeau, lle mae’r clwb golff yn awr, i’r fynwent yn Eglwys Llangybi.

Y mae hewl wedyn yn mynd i Penlan a Wernfach, er fod Wernfach wedi cael hewl newydd erbyn heddiw. Teulu Hughes oedd yn Penlan, Elwyn, Ernie, a Jenny. Dyma deulu a safodd o fewn y fro. Bu Pwyliaid yn byw wedyn yn Penlan ac fe roddwyd yr enw Cracaw arno. Yn Bronfa y trigai gweithiwr ar y ffordd sef William Defi, ei briod a’u merch Maisey. Trigai’r Pughes yn Lletycybi ac mae’r plant yn dal yn yr ardal. Tri lle sydd ar ôl sef y tri Cilgwyn, Cilgwyn isaf, uchaf a Cilgwyn Cottage. Erbyn heddiw trwy garedigrwydd teulu’r Howells yn Cilgwyn Isaf y cafwyd tir i ddatblygu’r Clwb Golff. Rhaid llongyfarch y weledigaeth oherwydd yn fy marn i anobeithiol oedd troi darn o dir, fedrir ei gymharu â’r cwmins pryd hyny, yn gwrs bach teidi iawn. Clod mawr i’r cnewllyn o weithwyr caled fu’n gyfrifol am y gwaith. Mae’n hyfryd cael fy mhrofi’n anghywir. Yn Cilgwyn Uchaf mae’r unig un o’m hoedran i sydd wedi aros yn ei hen gartref ac wedi magu teulu.

Diolch i’r diweddar Elwyn Hughes am gymorth i gofio rhai o’r enwau. Dyma ni felly yn gweld newid angrhedadwy yn ystod hanner can mlynedd. Gobeithio bydd hwn yn ysgogi rhai ohonoch i ychwanegi at y tipyn hanes yma.

Diolch i Mr Eifion Davies am y caniatad i ddefnyddio "Hewl y Cwmins".

TOP OF PAGE

 


...